Ffurf ar gamdrin plant yw camdrin plant yn rhywiol pan mae oedolyn neu berson yn ei arddegau yn defnyddio plentyn er cyffroad rhywiol.[1][2] Mae ffurfiau ar gamdrin plant yn rhywiol yn cynnwys rhoi pwysau ar blentyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol (boed y plentyn yn gwneud hynny ai peidio), dinoethiad anweddus (sef dangos yr organau cenhedlu, tethau'r fenyw, ayyb.) o flaen plentyn er boddhad rhywiol neu i ddychryn neu i geisio sefydlu perthynas â'r plentyn er mwyn ei gamdrin (grooming), gweithgareddau rhywiol corfforol gyda phlentyn, neu ddefnyddio plentyn i greu pornograffi plant.[1][3][4]
Amcangyfrifir cyffredinrwydd byd-eang camdrin plant yn rhywiol yn 19.7% i fenywod a 7.9% i wrywod, yn ôl astudiaeth o 2009 a gyhoeddwyd yn Clinical Psychology Review gyda gwybodaeth o 65 o astudiaethau mewn 22 o wledydd. Yn ôl y data sydd ar gael, Affrica sydd â'r gyfradd cyffredinrwydd uchaf o gamdrin plant yn rhywiol (34.4%), yn bennaf oherwydd cyfraddau uchel yn Ne Affrica; Ewrop sydd â'r gyfradd cyffredinrwydd isaf (9.2%); mae gan yr Amerig ac Asia cyfraddau cyffredinrwydd rhwng 10.1% a 23.9%.[11] Yn y gorffennol, cafodd 15% i 25% o fenywod a 5% i 15% o ddynion yng Ngogledd America eu camdrin yn rhywiol pan oeddynt yn blant.[12][13][14] Mae'r mwyafrif o gamdrinwyr yn adnabod eu dioddefwyr; mae tua 30% yn aelod o deulu'r plentyn, gan amlaf brodyr, tadau, ewythrod neu gefndryd; mae tua 60% yn gyfeillion i'r teulu, gwarchodwyr, cymdogion, ayyb.; ac mae tua 10% yn ddieithr i'r plentyn.[12] Dynion sy'n gyfriol am y mwyafrif o'r gamdriniaeth; mae menywod yn cyflawni 14% i 40% o'r achosion a riportiwyd yn erbyn bechgyn a 6% o'r achosion a riportiwyd yn erbyn merched.[12][13][15]Pedoffiliaid yw'r mwyafrif o droseddwyr sy'n camdrin plant cyn y glasoed yn rhywiol,[16][17] ond nid yw rhai camdrinwyr yn bodloni'r safonau clinigol am ddiagnosis o bedoffilia.[18][19]
Yn gyfreithiol, term mantell yw "camdrin plant yn rhywiol" sy'n disgrifio tramgwyddau troseddol a sifil pan mae oedolyn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol gyda phlentyn dan oed neu yn ecsbloetio plentyn dan oed er boddhad rhywiol.[4][20] Yn ôl y Gymdeithas Seiciatrig Americanaidd "ni all plant gydsynio i weithgareddau rhywiol gydag oedolion", ac "mae oedolyn sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol gyda phlentyn yn weithred droseddol ac anfoesol, ni all byth gael ei hystyried yn ymddygiad normal neu'n dderbyniol gan gymdeithas".[21]
↑ 1.01.1"Child Sexual Abuse". Medline Plus. U.S. National Library of Medicine,. 2008-04-02.CS1 maint: extra punctuation (link)
↑Martin J, Anderson J, Romans S, Mullen P, O'Shea M (1993). "Asking about child sexual abuse: methodological implications of a two stage survey". Child Abuse & Neglect17 (3): 383–92. doi:10.1016/0145-2134(93)90061-9. PMID8330225.
↑Levitan RD, Rector NA, Sheldon T, Goering P (2003). "Childhood adversities associated with major depression and/or anxiety disorders in a community sample of Ontario: issues of co-morbidity and specificity". Depression and Anxiety17 (1): 34–42. doi:10.1002/da.10077. PMID12577276.
↑ 12.012.112.2Julia Whealin, Ph.D. (2007-05-22). "Child Sexual Abuse". National Center for Post Traumatic Stress Disorder, US Department of Veterans Affairs.
↑Hall RC, Hall RC (April 2007). "A profile of pedophilia: definition, characteristics of offenders, recidivism, treatment outcomes, and forensic issues". Mayo Clinic Proceedings. Mayo Clinic82 (4): 457–71. doi:10.4065/82.4.457. PMID17418075.
↑Blaney, Paul H.; Millon, Theodore (2009). Oxford Textbook of Psychopathology (Oxford Series in Clinical Psychology) (arg. 2nd). Oxford University Press, USA. t. 528. ISBN0-19-537421-5. Some cases of child molestation, especially those involving incest, are committed in the absence of any identifiable deviant erotic age preference.